Cofnodion cryno - Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad


Lleoliad:

Fideogynadledda drwy Zoom

Dyddiad: Dydd Llun, 4 Mawrth 2024

Amser: 13.33 - 14.36
Gellir gwylio’r cyfarfod ar
Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/
13735


O bell

------

Yn bresennol

Categori

Enwau

Aelodau o’r Senedd:

Huw Irranca-Davies AS (Cadeirydd)

Alun Davies AS

Samuel Kurtz AS

Adam Price AS

Tystion:

 

Staff y Pwyllgor:

P Gareth Williams (Clerc)

Gerallt Roberts (Ail Glerc)

Sarah Sargent (Ail Glerc)

Kate Rabaiotti (Cynghorydd Cyfreithiol)

 

<AI1>

1       Cyflwyniadau, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau.

Ni chafwyd dim ymddiheuriadau na dirprwyon.

</AI1>

<AI2>

2       Offerynnau sy’n cynnwys materion i gyflwyno adroddiad arnynt i’r Senedd o dan Reol Sefydlog 21.2 neu 21.3.

</AI2>

<AI3>

2.1   SL(6)454 - Rheoliadau Cyd-bwyllgor Comisiynu Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2024.

Trafododd y Pwyllgor yr offeryn a chytunodd i gyflwyno adroddiad arno i'r Senedd yn unol â'r pwyntiau adrodd a nodwyd.

</AI3>

<AI4>

2.2   SL(6)455 - Rheoliadau Addysg (Cyllid Myfyrwyr) (Symiau Terfynau Ffioedd a Benthyciadau) (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2024

Trafododd y Pwyllgor yr offeryn a chytunodd i gyflwyno adroddiad arno i'r Senedd yn unol â'r pwyntiau adrodd a nodwyd.

</AI4>

<AI5>

2.3   SL(6)456 - Rheoliadau Gwastraff Pecynwaith (Casglu ac Adrodd am Ddata) (Cymru) (Diwygio) 2024

Trafododd y Pwyllgor yr offeryn a chytunodd i gyflwyno adroddiad arno i'r Senedd yn unol â'r pwyntiau adrodd a nodwyd.

</AI5>

<AI6>

2.4   SL(6)457 - Rheoliadau Gwasanaethau Preswyl Ysgolion Arbennig (Darparwyr Gwasanaeth ac Unigolion Cyfrifol) (Cymru) 2024

Trafododd y Pwyllgor yr offeryn a chytunodd i gyflwyno adroddiad arno i'r Senedd yn unol â'r pwyntiau adrodd a nodwyd.

</AI6>

<AI7>

2.5   SL(6)458 - Rheoliadau Treth Gwarediadau Tirlenwi (Cyfraddau Treth) (Diwygio) a Deddf Casglu a Rheoli Trethi (Cymru) 2016 (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2024

Trafododd y Pwyllgor yr offeryn ynghyd ag ymateb Llywodraeth Cymru, a chytunodd i gyflwyno adroddiad i'r Senedd yn unol â'r pwyntiau adrodd a nodwyd.

</AI7>

<AI8>

3       Offerynnau sy’n cynnwys materion i gyflwyno adroddiad arnynt i’r Senedd o dan Reol Sefydlog 21.2 neu 21.3 - trafodwyd yn flaenorol

</AI8>

<AI9>

3.1   SL(6)440 - Gorchymyn Daliadau Amaethyddol (Unedau Cynhyrchu) (Cymru) 2024

Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd.

</AI9>

<AI10>

3.2   SL(6)453 - Rheoliadau Rheolaethau Swyddogol (Mewnforio Bwyd a Bwyd Anifeiliaid Risg Uchel Nad Ydynt yn Dod o Anifeiliaid) (Diwygio Rheoliad Gweithredu’r Comisiwn (EU) 2019/1793) (Cymru) 2024

Nododd y Pwyllgor yr ymateb gan Lywodraeth Cymru.

</AI10>

<AI11>

4       Cytundeb Cysylltiadau Rhyngsefydliadol

</AI11>

<AI12>

4.1   Gohebiaeth gan Lywodraeth Cymru: Cyfarfodydd y Grŵp Rhyngweinidogol

Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth a gafwyd mewn cysylltiad â chyfarfodydd y canlynol:

·         y Pwyllgor Sefydlog Rhyngweinidogol,

·         y Grŵp Rhyngweinidogol ar Ddiwylliant a’r Diwydiannau Creadigol 

·         y Grŵp Rhyngweinidogol Chwaraeon.

</AI12>

<AI13>

4.2   Datganiad ysgrifenedig a gohebiaeth gan y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd: Rheoliadau Rheolaethau Swyddogol (Ffioedd a Thaliadau) (Diwygio) 2024

Nododd y Pwyllgor y Datganiad Ysgrifenedig a’r ohebiaeth gan y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd a chytunodd i ysgrifennu at Lywodraeth Cymru i ofyn am ragor o eglurder.

</AI13>

<AI14>

4.3   Gohebiaeth gan y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol: Rheoliadau Deddf Caffael 2023 (Cychwyn Rhif 2) 2024

Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol.

</AI14>

<AI15>

4.4   Gohebiaeth gan y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd:  Rheoliadau’r Amgylchedd a Materion Gwledig (Dirymu a Darpariaeth Ganlyniadol) 2024

Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd.

</AI15>

<AI16>

4.5   Gohebiaeth gan y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd:  Rheoliadau Pysgodfeydd Môr (Y Comisiwn Rhyngwladol ar Warchod Pysgod Tiwna Iwerydd) (Diwygio) (Rhif 2) 2024

Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd.

</AI16>

<AI17>

5       Papurau i'w nodi

</AI17>

<AI18>

5.1   Gohebiaeth gan y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad: Cyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru 2024-25

Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad mewn ymateb i adroddiad y Pwyllgor ar Gyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru.

</AI18>

<AI19>

6       Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod

Derbyniodd y Pwyllgor y cynnig.

</AI19>

<AI20>

7       Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Lles Anifeiliaid (Allforion Da Byw): Adroddiad drafft

Trafododd y Pwyllgor yr adroddiad drafft a chytunodd arno, yn amodol ar rai mân newidiadau.

</AI20>

<AI21>

8       Memoranda Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Diwygio Lesddaliadau a Rhydd-ddaliadau: Adroddiad drafft

Trafododd y Pwyllgor ei adroddiad drafft a chytunodd arno. Cytunodd hefyd i ysgrifennu at Lywodraeth Cymru i ofyn am ragor o eglurder ynghylch y Memoranda Cydsyniad Deddfwriaethol, ac y byddai'n copïo'r ohebiaeth i'r Pwyllgor Cyllid.

</AI21>

<AI22>

9       Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol ar y Bil Cerbydau Awtomataidd

Trafododd y Pwyllgor y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol a chytunodd i drafod adroddiad drafft yn ei gyfarfod nesaf.

</AI22>

<AI23>

10    Ymchwiliad Pwyllgor Cyfansoddiad Tŷ'r Arglwyddi - Llywodraethu'r Undeb: Ymgynghori, Cydweithredu a Chydsyniad Deddfwriaethol: Trafodaeth

Trafododd y Pwyllgor Ymchwiliad Pwyllgor Cyfansoddiad Tŷr Arglwyddi a chytunwyd y byddai’n cyflwyno tystiolaeth, ac y byddai drafft ohoni’n cael ei ystyried mewn cyfarfod yn y dyfodol.

</AI23>

<TRAILER_SECTION>

</TRAILER_SECTION>

<LAYOUT_SECTION>

1.          FIELD_TITLE

FIELD_SUMMARY

</LAYOUT_SECTION>

<TITLE_ONLY_LAYOUT_SECTION>

2.          FIELD_TITLE

</TITLE_ONLY_LAYOUT_SECTION>

<HEADING_LAYOUT_SECTION>

FIELD_TITLE

</HEADING_LAYOUT_SECTION>

<TITLED_COMMENT_LAYOUT_SECTION>

FIELD_TITLE

FIELD_SUMMARY

</TITLED_COMMENT_LAYOUT_SECTION>

<COMMENT_LAYOUT_SECTION>

FIELD_SUMMARY

</COMMENT_LAYOUT_SECTION>

 

<SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

2.1          FIELD_TITLE

FIELD_SUMMARY

</SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

 

<TITLE_ONLY_SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

2.2          FIELD_TITLE

</TITLE_ONLY_SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>